Llyfr Glas Nebo: Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018 (Welsh Edition)

by Manon Steffan Ros
“Waw. Jyst… waw. Plis darllenwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n darllen Cymraeg fel arfer. Mae’r geiriau’n ddigon hawdd. Yr hyn mae hi’n ei wneud i’ch calon sy’n anodd.” – Bethan Mair

Dyma stori ryfeddol Siôn, a orfodwyd i dyfu’n ddyn yn sydyn iawn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen. Mae’r hanes hynod wedi’i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

“Gafaelodd y nofel hon ynof o’r frawddeg gyntaf.” Manon Rhys

“Mae’n gyfrol fer ond yn un sy’n ffrwydrad (dwi’n ymwybodol o’r eironi) o emosiwn amrwd ac ysgrifennu craff.” Mwnaimwnai, Blog Mwnaimwnai

Publication date
  • August 23, 2018