Ar fore oer o Chwefror, yn y flwyddyn 2020, mae Dan, un o borthorion Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wrthi’n cyflawni ei drosedd arferol yn erbyn y gyfundrefn. Yn ei gyfarch wrth y drws mae Eben, y cofiannydd, sy’n ysu am gael mynediad. Ond yn ddiarwybod i’r ddau, mae Ana a Nan, dwy lyfrgellwraig a’u bryd ar ddial, ar fin newid hanes Llyfrgell Genedlaethol Cymru am byth. Mae’r nofel hon yn trawsnewid gofod tangnefeddus y Llyfrgell Genedlaethol yn set theatrig llawn posibiliadau – lle mae bwledi’n tarfu ar y tawelwch, yr Ystafell Ddarllen yn gell, a’r Llyfrgell ei hun yn un o wrth-arwresau mwyaf ein llĂȘn…
ENILLYDD GWOBR GOFFA DANIEL OWEN 2009