Mae’r stori’n ymwneud â dau ffrind, gyda’r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd yr Ewros. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed – yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae’r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy’n creu tîm go iawn.