“Rhywsut, yno yng nghyfnodau’r lloer mae fy mywyd i gyd: patrymau anorfod fy mhresennol, fy ngorffennol a fy nyfodol; ac wrth iddi oleuo a phylu, goleuo a phylu, mae hi’n deffro lleisiau a llefydd ynof a fu mewn cysgod cyhyd, gan eu hailgynnau a’u diffodd fel llusernau.”
Lloer-gofiant unigryw sy’n ein tywys drwy nosweithiau amrywiol yr awdur amryddawn, Fflur Dafydd. Yn hudolus, yn ddoniol ac yn gignoeth, mae’r llyfr yn pontio rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – mae rhywbeth yma i bawb.