
Nofel drosedd, dywyll wedi ei lleoli ar rust belt Cymru, yr arfordir diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol o Gynffig i Lansamlet. Caiff prifathro ysgol gynradd ei herwgipio a’i boenydio gan ‘Y Bwystfil’, seicopath mileinig sydd wedi lladd dau berson yn barod. Dyddiau’n ddiweddarach mae perchennog siop cebab yn derbyn parsel o Amazon. Ynddo mae un llygad.